ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cân Ysgafn: Y Rhagbrawf.

Y Talwrn

Available for over a year

Dwi bron a syrffedu ac yn llwyr ddifaru Cytuno dod i ’Steddfod Cylch i feirniadu. Ond, er gwaetha’r crigo, mae’n rhaid cofio gwenu A bod yn ofalus o’r hyn fyddai’n sgwennu: “Datganiad unigryw a gwreiddiol o’r gân” (Roedd hon wedi drysu ei geiriau yn lan). “Dehongliad mor gynnil, llefaru o ddifri’” (Mi fyddai’n ddechreuad petaet ti yn gwenu) “Ymdrechaist yn galed i gario brawddegau” (Nes oeddet yn las yn dy wyneb ar brydiau.) “Perfformiad hyderus a’th ffocws yn bendant” (Roedd o’n ceisio dilyn siap ceg ei riant) Dewisiaist ti dempo braidd yn rhy ‘allegro’ (Arafa! Nid ras ydi’r canu ’ma’r lembo) “Defnyddiaist dy wyneb yn wych i ddweud stori” (Rho gynnig ar actio. Ni fedri di ganu.) ’Rôl gwrando ar drigain yn canu’r un alaw Dwi’n torri traddodiad beirniadaeth pob rhagbraw’ Gan beidio a nodi “Dal ati, da ti!” Rhag ofn mai y beirniad tro nesa fydd . . . Fi. Gwenno Davies 8.5

Programme Website
More episodes