Episode details

Available for over a year
Mae'n dymor i hen gosfa ysgafn-droed ailglymu careiau'r 'sgidiau trymion; llnau huddug y llynedd, dod at ein coed ym mlas y bore. A throi'n golygon at hud y ceunant sy'n dadmer swildod Sgwd yr Eira, yn golchi'i frethynnau ym mhyllau Sgwd y Pannwr, yn barod i wisgo'r esgyrn pren ar ei lannau. A do, gwelwyd dail. Rhai fel haearn rhwd o dan ein camau, yn difetha'r llun a addawsid ar Waun Hepste'n ha' bach brwd, sy'n dal i bydru eu hafiechyd hÅ·n. Trobwll fydd pob rhod ym Mellte cyhyd ag y gwrthyd Ebrill faddau i'r byd. Osian Rhys Jones 9.5 CYFANSWM MARCIAU Y GLER: 53.5
Programme Website