Episode details

Available for over a year
Deiseb am ysgariad Ie’n ateb, conffeti, Byd heb fai oedd Mai i mi Nes gwawriodd nos y goddef, Rhoi dwrn oedd ei gariad ef. O garu’r haf a’r gair rhwydd Dod i oriau distawrwydd, A dôr annealltwriaeth Rhwng dau a’u calonnau caeth. Rhoi terfyn a ddymunwn Ar y bod tan orfod hwn Am mai hydref yw modrwy A Mai’n ddim ond hirlwm mwy. Nia Powell 9
Programme Website