Episode details

Available for over a year
Clyw'r eos rhwng nos a nant Yn felys ei chyfeiliant. Mor ddyfal yw ei halaw Yno'n glws mewn gwynt a glaw. Mor daer yw hi ym mro'r drain, Sŵn hyder sy'n ei hadain. Ond uwch hen fyd ei chân fach Sy' heno'n hel briwsionach, Mae ei haith yn haeddu mwy, Hi o raid yw ein drudwy. Cyfod eos dos yn deg A chana am ychwaneg. Aled Evans 9.5
Programme Website