ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cân Ysgafn: Pawb a'i fys.

Y Talwrn

Available for over a year

Ma’r plant ‘ma wedi myned, yn prysur golli’r ddawn i gynnal sgwrs arferol, a chyfathrebu’n iawn. Yno’n eu bydoedd bychain yn syllu ar y sgrîn, y bys sy’n gwneud y siarad, ni ddaw’r un gair o’i min. A’i cyfrwng cymdeithasol yw tecstio’n ddi ben draw pan sefyll eu cyfeillion ond rhyw lathen fach gerllaw? Y geiriau a dalfyrir, llafariaid sydd ar goll, gramadeg a chystrawen? Fe aeth y cyfan oll i ffurfio ieithwedd newydd, un cyfoes, hylaw, slic a’r unig fordd i’w siarad fydd d’wedyd “clic clic clic”. Darllenant eu gwep-lyfrau, a dilyn hwn a hon sy’n clochdar mwy na thrydar wrth roi eu holl gerbron. A enir y babanod i’r cenedlaethau ddaw ag eiffôn neu fwyaren yn barod yn eu llaw? Ond yna sylweddolais mor hawdd yw syrffio’r we, y gellir canfod popeth a sydd o dan y ne’, i “syrffio” mewn i gariad wrth rithio llais a llun, a hyn sy’n fendith enfawr i bawb sy’ ben ei hun. Ac felly penderfynais mae’r ffordd i minnau mwy yw prynu ffôn symudol a ” Googlo” gyda hwy. Meirion Jones 8.5

Programme Website
More episodes