ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cân Ysgafn: Pawb a'i fys.

Y Talwrn

Available for over a year

[sef y ‘Pawb a’i Farn’ newydd, mewn byd arall] Wrth i Es Ffôr Si ddymio lawr at y carn ni ddymiwyd yn is na ‘Pawb a’i Farn’ - mae’n llawn caridỳms a honiadau di-sail dan law Dewi Llwyd, ein Jeremy Kyle. Mae’r gyfres yn cychwyn â’r ‘poetry scene’ a phob math o racsod am fod ar y sgrîn – mae ambell archdderwydd, a meuryn neu ddau, ‘di derbyn rhyw gildwrn i’w temtio i’r ffau. Mae Dewi’n pryfocio, mae Dewi’n creu stŵr: “A chi sgwennodd honna? Hy? Ydach chi’n siŵr? Ma’ gynnon ni dystion - rhai da ar y naw – sy’n deud bod eich cerddi chi i gyd yn ail-law.” Honiadau o feiau, trawiadau hen-ffash a hyd yn oed ffeirio englynion am gash. Mae’r beirdd yn cynhyrfu, mae rhai’n mynd yn grac, yn cega, yn coethan, ac yna – smac! – mae’n dechrau troi’n ffeit, mae’n dechrau troi’n flêr, mae ambell hen brifardd ar lawr yn gweld sêr. O ganol y dyrnu, mae Dewi’n rhoi winc: “A nawr dyma’r egwyl. Dewch nôl ymhen chwinc.” Geraint Williams 9

Programme Website
More episodes