Episode details

Available for over a year
Hwyrach fory, daw awen a cherdd neu ddwy gyda hi sy’n plethu rhwng llinellau syniad tlws i’m geiriau i. Hwyrach fory, caf ddringo yn uwch ac yn uwch o hyd a gwenu o gael edrych ar dlysni pellteroedd byd. Hwyrach fory, sibrydaf yn dawel un neges fach ‘mod innau yn dy garu, cyn i’r diwrnod ganu’n iach. Ond heddiw rwyf yn eistedd a phwysau’r byd ar fy mod a sylwaf innau, hwyrach na fydd fory byth yn dod. Catrin Gwyn 9.5 Cyfanswm Marciau: 54
Programme Website