ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cerdd Rydd: Hwyrach.

Y Talwrn

Available for over a year

Hwyrach (Eryri, Pasg 2013) Mae sglein rhew ar eira'r Garn, ond dyfnach, gwynach o hyd yw mudandod braw y Grib Goch. Yng nghysgod hyn i gyd bûm innau unwaith eto'n driw i'r drefn gan ddathlu'r tridium ar ei hyd – y cofio hardd; ail-greu, ail-fyw yr hen, hen stori yn ei lliw a'i hofn; yn ei haddewid hefyd. Rhoi trefn ar ddryswch rhai, sydd i'w weld o hyd mewn heulwen gynnes braf a'r gwynt meinaf, duaf un sydd eto'n mynnu llenwi mynwent. A bod, hwyrach, y tu draw i'r mudandod llethol, gwyn, sŵn rhaeadrau'n pefrio a lilїau'n lliw. Dafydd John Pritchard 10 Cyfanswm Marciau: 55.5

Programme Website
More episodes