ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cerdd Rydd: Hwyrach.

Y Talwrn

Available for over a year

(Sandy Hook) Mae corneli’r faner yn cyrlio’n dyner yn y gwres, a mam yn rhoi’r het gowboi ar ei ben, ac yn taenu’r pridd yn drwch ar ei fochau bach. Taflu sws, cyn rhedeg – gyda’r byd a’i ddryll yn ei ddwrn – i’w guddfan yn y coed. Pop, pop, pop: â’r bwledi’n chwerthin eu curo wrth i’r caniau coch ddawnsio, a chlatsho i’r llawr. Mae e’n gwenu. Yn edrych i’r baril, a chwythu. Mae’r faner yn crynu uwch yr iard a’r atgasedd yn cronni’n ei gledrau, wrth iddo ganu’r gloch. Rhoi mwgwd du yn daen, Ac o wain ei wallgofrwydd tynnu ar glicied rhy gyfarwydd. Taflu rheg, a brasgamu yn olion ei draed i’r gwyll. Pop, pop, pop: a rhes ar ôl rhes o blant yn tasgu fel tuniau   yn ffrwydr o waed a dagrau i’r llawr. Ac mae e’n gwenu. Yn edrych i’r baril, a chwythu. * Rhes ar ôl rhes. Dosbarth ar ôl dosbarth. Baner ar ôl baner yn hongian heno ar eu hanner. A thithau’n dal i droi’r gwn at dy ben dy hun. Mari Stevens 9.5 Cyfanswm Marciau: 54.5

Programme Website
More episodes