Episode details

Available for over a year
I riwiau oer y sir hon, I hau hadau breuddwydion Yr es ; eto bu gobaith Y dôi i’r waun gnwd o’r iaith, Geiriau hardd yn fyw o’r gro, A geiriau yn blaguro. Daw y rhew i dorri’r rhain Yn y cae cyn eu cywain. Ond er rhew, â hadau’r iaith I’r rhiw foel mentraf eilwaith ; Gwneud fel arall ni allaf, A rhoi’r glyn i’r chwyn ni chaf. Robat Powel   9.5
Programme Website