ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cân Ysgafn: Parti'r Staff.

Y Talwrn

Available for over a year

O’r nefoedd, mae’n amser parti’r staff, A hawl y plebs i gael gwd laff Yn cyrraedd eto fel gwynt drwg. Mae’n anodd peidio gwisgo gwg A phawb o’m cwmpas, ar fy llw, Yn ymddwyn fel trigolion sw. Rhaid troi yng nghwmni’r hoi poloi A stumio gwên am awr neu ddou, Gan sipian chwerw cynnes, ych, Wrth wrando ar eu blincin tych. Esgus parchu pob rhyw farn, A’r chwys yn disgyn dafn wrth ddafn. Gorfod dioddef menyw flin, A chroen ei thalcen ar ei thîn; Ar graff arteithiau’r byd o’r bron Gall dim gymharu gyda hon. Sdim dewis bellach, rhaid yw ffoi Cyn chwythu falf, a hynny’n glou. Ac wrth i’m dianc trwy’r drws cefn Fe glywaf floedd, “diolch i’r drefn!”   Phil Davies 8.5

Programme Website
More episodes