Episode details

Available for over a year
Roedd Chum, ein ci nodedig, yn un ar ddiwedd mis A rhaid oedd cynnal parti beth bynnag oedd y pris, Aeth llu o wahoddiadau at ffrindiau yma a thraw, Yn wir, pan ddaeth y diwrnod doedd neb am gadw draw. Daeth rhai mewn siwt Versace a ffroge crêpe de chine, O blith y dosbarth VIP’s roedd corgwn swanc y Cwîn. Fe gwrddodd Chum â’r bonedd pan aeth i Cryffts rhyw dro; Tra’n mynd am wâc ger llyn Hyde Park fe fentrodd ddweud hylô. Roedd pethe’n mynd yn harti nes winciodd e meilord Ar un o’r corgwn perta, gast ddel o’r enw Maud, Dechreuodd pethe dwymo ‘rôl gêm o “hide and seek” A gwelwyd Chum a Maud y Plas yn dawnsio “cheek to cheek”. Fe ffromodd Dug Caeredin wrth weld ei antics hy – Ni phallwyd dim ar nwydau Chum a suddodd ddau neu dri O’i ddannedd blaenllym, miniog, mewn man bach digon tyner O gorff ‘rhen foi nes cilio’n glou pob owns oedd ganddo o hyder. Fe drodd y parti’n fedlam, yn llanast randibŵ A daeth y cyfan oll i ben trwy ddwedyd ‘ Twdl ŵ ’, Ond wedi’r treiffls yfflon, y sgandal a’r galanas, Mae gan Chum ni berthnasau lu yng ngoridorau’r Palas. Geraint Morgan 8
Programme Website