Episode details

Available for over a year
Gweledigaetheu'r Bardd Pws Cafodd Satan y syniad dieflig o gaei parti staff i'w weision, ' Rholl bobol a fu'n ei wasanaethu eri'od - Gengis Kahn, Adolf Hitler a'r Saeson. 'Roedd Magi Thatcher yno yn crawcian fel hen frân A glowyr y Rhondda, i lawr am y dydd, Yn cario glo i’r y tân. Mewn cornel fach ddrewllyd, a'i ben e mewn ffwrn, George Thomas, arch lyfwr y Cwin, Gyda ' Welsh Not' pren rownd ei wddwg A phocer poeth lan ei din. Janet Street Porter a'i dannedd a'r dân, Ann Robinson druan a'i winc, A. A. Gill, yr athrylith, yn gwingo'n y gwres Mewn pair yn llawn ' printer's ink'. Y bonwr Leo Abse yn difaru ei fyd, Michael Burke yn toddi mewn chwys, Neil Kinnock yn gweiddi mewn ing am ei wraig Ond ro'dd Glenys wedi ca'l 'Day Release' 'Run dIwrnod ro'dd parti staff arall I fyny fry yn y nen, Ac i sain telyne - clywyd sŵn yr emyne- A'r Cymry yn dathlu'r AMEN. Dewi Morris 8.5
Programme Website