Episode details

Available for over a year
Weithiau, wrth godi’r caead, ’sa hi’n medru taeru’n tad, heibio’r wich, fod eco brau ddoe’n y nodwydd a’i nodau, a cham pob dawns a ddawnsiwyd i’r rhain wedi’u dal mewn rhwyd drwy’r llais, nes, wrth godi’r llwch y daw drosti’r hen dristwch yn ei sgîl. Daw nos y gân o’r cof i ganu’r cyfan; dagrau hefyd, i grafu eu hoel dwfn drwy’r feinyl du. Llŷr Gwyn Lewis 9
Programme Website