Episode details

Available for over a year
Crinwynt sy’n cancro’r Renault – drws ieir yw ei deiars o; â’i bum tolc, heb M.O.T., mae’n marw mewn mieri. Yna o’r jyngl, daeth rhyw jóch o gytgord i dir Giatgoch – rhag hel sbwriel, creu helynt, tyˆ gwydr wnaed o’r moto gynt. Dan ei fonet, tyf letis; mewn drysau: potiau swît pîs. O’r hen jync o Renault, Jôs: dyma iti domatos. Myrddin ap Dafydd 9
Programme Website