Episode details

Available for over a year
Wel, mi oedd o’n hen a pharchus Ag arian yn ei god, Ac roedd yr amser iddo brynu Ei fwthyn wedi dod. Anfonodd am fanylion Un reit unig wrth ei lun Oedd ar werth ger Aberdaron, A’i hel-hi am Ben Llŷn. Mi gafodd hyd i’r bwthyn Yn yr haul ar ben y rhiw, A be’ welai o wrth syllu O stepan ddrws ‘Sea View’ Ond mil o garafannau, A’r hyn oedd lawer gwaeth: Tair mil o garafanwyr Yn torheulo ar y traeth... Wel, mi brynwyd yn y diwedd Focs pren, heb fod yn fawr, A draw o dan Bont Menai Y rhôth ei ben i law   Twm Morus 9
Programme Website