Episode details

Available for over a year
Mae’n llinell anweledig, ond gwn ei bod hi yno - yn fy nghwpwrdd bwyd a fy nghwpwrdd dillad, ar fy mhlât ac ar bob gwydryn a phob potel. Mae yno wrth gellwair a thynnu coes a rhwng un pâr o esgidiau a’r llall. Fe welaf linellau pobl eraill yn eglur – ar eu platiau, eu cyfrifon banc a’u colur. Ond wela i byth fy llinell i, honno rhwng digon a gormod Sian Northey 9
Programme Website