Episode details

Available for over a year
i ddathliadau deucanmlwyddiant Nebo, Y Rhiw, 11–07–2013. Ar ddwy ganrif ei brifiant Dewch bobl hŷn, deuwch blant I Dŷ’r rhyfeddod a oedd Yn air yma, yn rymoedd. Mae ei ust yn ymestyn Tu hwnt i ddiflastod dyn. Pob sedd â’i huodledd hi, Mae emynau’n y meini, A balm ‘Mi glywaf’ o bell A’n llenwa ag un llinell. Dewch at breseb yn Nebo, Yr ias gynt nid aeth tros go’. Gareth Williams 9
Programme Website