ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cân Ysgafn: Yr Ymweliad.

Y Talwrn

Available for over a year

Daeth cnoc ar ddrws y tŷ ’cw: roedd ’na heddwas yn yr ardd. Pe bawn i’n hollol onest, nid oedd o’n greadur hardd. “Excuse me, sir” dywedodd. Mi ges innau hanner ffit: roedd gen i yn fy mathrwm ryw blanhigyn ilejit yn anrheg o Jamaica. “Oh I’m sorry, you mean me?” gofynnais er na welwn yno neb, ’mond fo a fi. Mi chwyswn chwartiau bellach (am ryw reswm, gwisgwn gôt). “Yes, you” oedd geiriau’r plisman. “Do you know who owns this goat?” Dim ond bryd hynny, sylwais, wrth ei gwt yr oedd bwch gafr yn sniffian rownd ei drwnshwn fel petasai’n cynnig ffafr. “We found him on the corner” meddai’r dyn o’r South Wales Force. “Appears to be local. Does it happen to be yours?” Wel nefoedd. “Gwranda washi,” meddwn. “Dw i’m yn ffarmwr, reit? Tydw i’m yn mynd i’r Royal Welsh yn unswydd i gael ffeit...” Yn blaen dywedais wrtho nad y fi oedd biau Bil (mae’n enw gwell ar afr mae’n siŵr na Don neu John neu Jill). Ymlaen yr aeth yr heddwas felly’n ddryslyd lawr y lôn. Amdanyn nhw fyth wedyn hyd y lle ni chlywais sôn, ond os bydd rhai yn holi oes gafr eto ar y tir yn crwydro’r creigiau geirwon heb ei godro – y mae’n wir. Rhys Iorwerth 9.5

Programme Website
More episodes