ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cân Ysgafn: Yr Ymweliad.

Y Talwrn

Available for over a year

„Aliens m’yn diawl”, gwaeddodd Idwal, wrth faglu i far y Llew Gwyn, „Di glanio yn safle’r anabl, mae’r ddau ar eu ffordd i’r fan hyn”. Y wich o'r hen ddrws derw dwbl a fferodd fêr esgyrn bob dyn, Ond roedd Idwal yn rong wedi'r cwbl,oherwydd d'oedd yno ond un. Yr ias yn 'Y Llew' oedd yn ingol, llysnafodd i mewn yn ddi-hid A gofyn i bawb yn bresennol "Be gym'rwch i'w yfed i gyd?" Ysgwydwyd y lle gan fonllefion, croesawyd yr Eliyn i'w plith, A hwnnw'n rhoi diodydd i'r ffyddlon a'n rhannu sigars rif y gwlith. "Gylybygylyrg yw fy enw, rwy'n Zyth o fydysawd Gylog Mae'n anodd i'w ddweud pan ti'n feddw, ac felly, jesd galwch fi'n Zog" Pen dim fe ledaenodd y stori fel feirws eithriadol o chwim "Gylybygylyrg sydd yn talu!". "Mae pob un diferyn am ddim!". Ni welwyd eirioed y fath fwrlwm rhwng muriau profiadol 'Y Weit' A dyma'r tro cyntaf erstalwm i'r sabath fynd heibio heb ffeit. Nos Iau, roedd pob pwmp wedi sychu.Dim deigryn o êl yn y lle Aeth Zog draw at Morus i dalu, a'r barman ddywedodd "O..o..c..ê..ê.ê..ê, "Dwy fil, pedwar cant a dwy geiniog!" "I'r dim.Cadwa'r newid" medd Zog Gan estyn rhyw bishyn bach sgleiniog, a dweud "Dyna chdi. Pedair Glog" Wel, diolch i Forus 'Weit Leion' ni welwn fyth eto'r un Zyth Aeth Gylybygylyrg efo'r afon, a baniodd bob Eliyn am byth Jôs 9.5

Programme Website
More episodes