ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2013

Cân Ysgafn: Y Clwb.

Y Talwrn

Available for over a year

Y Clwb [o Lyfr Du Caerfyrddin] “Pa ŵr yw’r Porthor?” “Glewlwyd Gafaelfawr, Pen bownsar Cymru. Rwy’n filain, ac enfawr. Pa ŵr sy’n gofyn?” “Wel, fi, Arthur Frenin, Nawr agor y drws ‘ma, ma’n llwnc i fel corcyn.” “Na, nefar, byth bythoedd; Pendragon neu beidio Dos i rywle arall – ti ‘di cael dy banio.” “Fy banio! Ti’n jocan! Ond dwi’n adnabyddus, Enwocach na Gandhi, Madonna, Twm Morys. Dwi wastad ar Heno a Radio Cymru, Dwi’n nabod Huw Stephens, a Caryl Parry. Rho un cyfle arall i arwr edifar: Dwi’n addo bihafio a bod yn foesgar.” “No wê. Y tro dwetha mi ddaliais ti’n snortian A dangos Caledfwlch i’r barmed fach, druan. Na – chei di’m dod fewn – dim gobaith caneri. ‘Da ni’m isio dy deip di. Mae hwn yn lle classy.” “Os felly mae’i deall hi, y llabwst o asyn, Jyst dere fan hyn ac fe chwala’i di’r pwr[...] Ysywaeth, fan hyn daw’r llawysgrif i’w therfyn Er dirfawr ryddhad i’r cynhyrchydd a’r meuryn. Geraint Williams – Y Cŵps 8.5

Programme Website
More episodes