Episode details

Available for over a year
Lle bu Pwyll yn ymbwyllo Yn hud ei Riannon o, Glywi di'n codi o'r cwm Seiniau a golau'n gwlwm? A ddaeth cŵn Annwn yn ôl I'n rhwygo'n rhydd o'n rhigol? Ai milwyr Norman milain Sy ar droed yn ysu'r drain? Do, bu trais, gofid, bu tranc Lle saif y lleisiau ifanc Heddiw yn dawnsio'n ddiddan, Ar y cyd, i wewyr cân. Terwyn Tomos 9.5
Programme Website