ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

Carol Blygain: Gwyrth y Geni

Y Talwrn

Available for over a year

Yn Llyfyr y Bywyd cawn weld, o’i agoryd, Holl hanes y golud yn glir, Am stori cenhedliad yr Iesu ein Ceidwad, Heb ynddo’r un gwyriad o’r gwir. Yn nydd Herod frenin y Baban dilychwin I deulu cyffredin a roed Yn rhodd gan y Duwdod i ddangos ei ddyndod Fel arwydd o’r undod erioed. Heb gysgod un cronglwyd, heb wely nac aelwyd, Anrhydedd ni roddwyd i’w radd, Ond cafodd gymwynas, er ised ei hurddas – Man benthyg hen gowlas a gadd. Ac eto, mewn difri, fe ddywed y stori (Mae hon yn adroddi yn drist), Wrth gablu yn ddigllon a phoeri melldithion, Bu’r angau yn greulon i Grist. Cymwynas gan wrda o Arimathea, Wrth fenthyg ei gladdfa yn glau, Wnaeth ddwyn corff yr Iesu i’w ogof a’i gladdu A maen rhoed i’w gelu a’i gau. Ond yna ’mhen tridiau fe’i codwyd o’r angau A daeth o’i grafangau yn fyw, A mwyach mae’n eiriol dros bob enaid meidrol I droi rhag y ddiafol at Dduw. Dewi Pws 9.5

Programme Website
More episodes