ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

Carol Blygain: Gwyrth y Geni

Y Talwrn

Available for over a year

Dewch, dathlwch, Gristnogion, Yn falch ac yn fodlon, Fe gododd gobeithion y byd. Daeth Iesu yn faban, Yn fawr, er yn fychan, I'n geni ni'n gyfan i gyd. Duw roddodd addewid, I godi ein gofid, Cyflwyno ei ryddid yn rhodd; Fe gadwodd ei fargen, Sefydlodd ei seren, Diwallodd fy angen o'i fodd. Dyrchafodd ni'r gweision I'w fab yn gyfeillion, Fu'n byw fel gwehilion yn hir; Oherwydd ei ddyfod, I ni ei adnabod, Fe gawsom ni gymod â'r Gwir. Dewch, dathlwch, Gristnogion, Yn falch ac yn fodlon, Duw gododd obeithion y byd; Yng nghysgod y groesbren, Ym mrathiad yr hoelen, Cyflawnodd ei fargen â'i fyd. Terwyn Tomos 9.5

Programme Website
More episodes