Episode details

Available for over a year
Mi gwrddais â llawer o ddoethion Mewn ysgol a thafarn a gwaith, A nawr rwyf am rannu'r profiadau A gefais wrth fynd ar fy nhaith. Fe athro, fe holais y cwestiwn Paham mae gwddf hir gan jiraff ? Am fo'i ben e mor bell wrth i gorff e' Wedd ateb Wil bach yn reit graff. Sawl pelen o ddafe sydd isie I fystyn o amgylch y sir? A'r ateb gan strab yn y cefen- "Mond un, os yw'n ddigon hir" Mae syniadau reit finiog gan ffrindiau Am bethau fel hyn ma nhw'n son, Gair arall nid oes am 'thesaurus' Paham mae gan seicics rif ffôn ? Ond mae'n well 'da rhai fod yn dawel Yn ddoeth ac yn dweud dim byd, Gan wybod, os fentra nhw siarad Y ddryllia nhw'r ddelwedd i gyd. Terry Reynolds 8.5
Programme Website