Episode details

Available for over a year
Ei gwasg sy’n fain; rhy fain i’w deunaw blwydd, Â hithau’n honni’n daer ei bod hi’n llawn. Mae’r celwydd erbyn hyn yn dod mor rhwydd, Â hithau wedi hen berffeithio’i dawn. Y llais bach yn ei meddwl sy’n cryfhau Gan fynnu llwgu’i chorff, er gwaetha’r boen. Nid yw’n distewi, er bod esgyrn brau Yn bygwth torri tyllau drwy ei chroen. Mae’r llais yn cyfri’r briwsion bach ar ras, A thyfu’n farus wna, o fis i fis, O sibrwd tawel, cudd i sgrechian cras Gan wthio bys y dafol eto’n is. Ei chorff, yn sgerbwd brau, sy’n ildio’r tir, A sgrech y llais a dry’n dawelwch hir. Gwawr Ifan 9.5
Programme Website