Episode details

Available for over a year
Tatws ar eu traed sgen pel-droedwyr, Ar ddwylo mae rhai beirdd medda' nhw, Ar fysedd y bois chwarae piano Mae 'na lun Middle C yn datŵ. Mae bois chwarae rygbi'n gyhyrog, A'u breichiau nhw yn luniau i gyd, Mae hogan drws nesa yn fodel A'i choesa yn floda ar eu hyd. A fama dwi inna'n pryderu, Ac yn poeni yn fawr coeliwch fi, Lle tybed ca' i roi fy un innau Achos dyn llnau toiledau ydw I. John Gruffydd Jones 9
Programme Website