ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

Cân Ysgafn: Y Daith Ddirgel

Y Talwrn

Available for over a year

Ar wyliau, aeth llanciau Llanrwst a’r cyffiniau Mewn bws ‘Teithiau Dirgel y Ddraig’, Gan wisgo’u siec-grysau a’u ‘corduroys’ gorau, Yn barod i chwilio am wraig. “Fe fyddai’n braf treulio,” medd Ted, “ddyddiau yno, Er mwyn medru ffeindio fy mrân.” “Ddim hirach nag wythnos, gobeithio,” Medd Ambros, “Does gen i ddim ond un trôns glân.” “A gaf i awgrymu,” medd Bob Bwlch y Beudy, “Ein bod ni’n rhoi cynnig bob un, Ar geisio dyfalu ’mha le wnawn ddiweddu.” Roedd pawb ar y bws yn gytûn. Aeth pob un llanc ati, yn ei dro i enwi. A betio a wnaethant yn ffri. Wrth lwc yr oedd Idwal ’di pacio cap stabal, A rhoes pawb eu pres ynddi hi. Ac ar ôl breuddwydio am ffyrdd fedrant wario Y wobr ariannol ‘n’yr het, Roedd pob un mewn syfrdan, o gyrraedd eu cyrchfan, Mai’r gyrrwr enillodd y bet. Gwenno Davies 9

Programme Website
More episodes