Episode details

Available for over a year
Y synau bach sydd eisiau bod yn eiria’ - fel ‘mam’ a ‘nain’ a ‘Twm’ sy’n cynnau gwên, cyn plethu ‘fi’ ac ‘isio’ y tro cynta’ a’r gred mai ‘Na’ yw gair mawr pobol hen. Wrth efelychu deunod ‘Heno, heno’, ymrithia sŵn yn synnwyr ‘hen blant bach’, cyn ffrwydro’n fwrlwm gwyllt o blesio a phlagio llawn ‘sws i mami’ a direidi iach. Y geiriau’n rhewi’n swil yng ngwres dau gariad wrth gyffwrdd llaw â gwên y wefus fud, cyn mentro oes â chwestiwn bery eiliad a gair o ateb dry’n gyfrolau’u byd. Mân-siarad y blynyddoedd mor ddi-feddwl, distawrwydd yn dweud mwy am wefr a chraith, cyn crefu am glywed unrhyw air bach carbwl gan wraig a mam a nain ar ben y daith. Eifion Lloyd Jones 10
Programme Website