Episode details

Available for over a year
Robben, heb wawr o obaith, a’i waliau moel a’i haul maith, a’i thir hesb a’i thyrau hi: onid dyna’r cadwyni i dorri enaid arwr ac i ddymchwel gorwel gŵr? Yn dawel drwy’r chwareli, yn y llwch, yn nhonnau’r lli, roedd o raid pan dorrai dydd dan awyr diwrnod newydd yma rym, grym mwy ar waith: Robben a’i gwawr o obaith. Aron Prichard 10
Programme Website