ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

Cân Ysgafn: Llythyr Diolch

Y Talwrn

Available for over a year

F’anwylaf Liz, sut ’da chi? Sut mae’r bowals a’r VD? Sgwennu atoch ydw i – i ddiolch ichi’n fawr. Daeth eich llythyr fore Llun, fy Mawrhydi (f’unig Un): MBE i mi fy hun! Mi syrthiais ar y llawr. Ichi Liz, mi rof fy llaw. Er yn wir, mi gefais fraw – bron nes llefain fel y glaw! Bu’n freuddwyd fawr gen i fyth ers dyddiau’r aelwyd gynt, ers fy aberth pan wnes stint dros fy Nghymru (am fy mhunt), gael parti yn B.P. Mae ’na rai yn gweiddi gwae, rhai yn cylchu am eu prae, ond yn lwcus, mae’n y Bae sawl ffrind sy’n dallt i’r tî. Gwneud eu gorau, dyna be, codi jest cyn amser te, nhw sydd wedi ffeindio’u lle yn weision bach i chi. W’chi Liz, mae rhai yn gas... Hidied befo, wrth gael blas ar frechdanau gorau’ch plas, caf gwrdd â’r Georges a’r Daves. Ac os caf i ddans and song yn eich tŷ pan gaf y gong, peidiwch â chael hyn yn rong – Britannia rules the waves. Ond un pryder mawr s’gen i, rhyngoch chi a fi a’ch ci, (gwell na dau bob tro yw tri - mi wn fy mod yn gês!), byddai’n dda cael eglurhad, gan fy mod yn ddyn fy ngwlad, beth yn enw’r mab a’r tad ar wyneb daear wnes? Rhys Iorwerth 8.5

Programme Website
More episodes