ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

Telyneg neu Soned: Ffoi

Y Talwrn

Available for over a year

Mae'r byd i'w weld o gopa'r Picws Du Ac ôl bywydau'n gwau o fryn i fryn, Mae'r llwybrau'n cynnal olion traed a fu Yn cilio i'r llonyddwch uwch y llyn. Daw rhai i'r llecyn yma ar y ban A chredu bod ’na ffin rhwng chwardd a chri, Mai ffol oedd gweithred morwyn llyn y fan, Bod yna amharch yn ei hystum hi. Caf innau fynd rhwng craig ac awyr las I'r man lle nad oes pellach ar y daith. A rhannu wnaf rhyw bwt o dafell gras Neu roi i'r adar ddarn o fara llaith, Gan ganfod deigryn mewn chwerthiniad rhydd A gwên yn ddwfn ym mhob un eiliad brudd. Aled Evans 9

Programme Website
More episodes