Episode details

Available for over a year
Chwyth dy drwmped Chwyth dy drwmped, gyfaill, chwyth dy drwmped dy hun, lluchia hen nodau'r llechi a'u hen hen hollt i ffwrdd, o'r neilltu, chwytha holl lwch y talpiau glo i glyw y syndod sy'n y glissando, gyrra'r cornet i sgrechian, i godi'r to a ninnau'n codi efo fo. Anghofia'r llymder a thrymder angladdau, tro fartsh y brotest yn gawdel o faddau, byrfyfyria'r nos yn foreau, rho inni'r naid i'n cario drwy'r nodau. O! chwyth dy drwmped dy hun, gyfaill, chwyth dy drwmped, mynna roi inni dy diwn unig, a thrwy dy fudydd, gwna i mi fudo i le ar fy nghyfer lle gallaf anghofio, lle mae'r bysedd bob amser yn clicio. Tro'r chwerw heno'n chwarae, rhwyga'r euogrwydd yn ddau, rho i mi hyn, i'r nos barhau, yng ngwlad y mwg a'r jazz a'r ddawns, lle mae'r gwin ar y byrddau, siawns, tyrd â dy fwg trwy dy fegin, chwyth, o! chwyth dy drwmped, gyfaill. * * * Ond wedi'r cyfan, rho diwn wahanol, dos â fi'n ôl i weld y bobol, a hel dy alaw yn eu canol, rholia dy rallentando, atgoffa fi o'r andante eto, a dewisa'r daith adagio. Dos â fi'n ôl i'r neuadd les at frodwaith baneri, at y diffyg pres, at ddirwest syber y gymuned nes, o, chwyth dy drwmped, Dos â fi'n ôl i'r festri oer, a chrafiad llwch mewn clirio poer, i'r emyn na roddai ddewis i ddyn er mwyn anghofio'i dynged ei hun ond dal i chwythu'i drwmped ei hun ond bod pawb yn gwneud, a phawb fel un. Chwyth dy drwmped gyfaill, chwyth dy drwmped dy hun.
Programme Website