Episode details

Available for over a year
Dihangodd Huw Bach y gwningen O afael y labordy mawr Roedd o’n chwilio am fyd amgenach Roedd o’n tynnu at ei ugain oed nawr. Dihangodd drwy dwll mewn wal goncrid, A landio mewn llecyn bach gwyrdd, Ac yno yn neidio a dawnsio Fe gyfarfu â chwningod fyrdd. Medd Huw ‘Dach chi i weld yn reit fodlon Yn byw gyda’ch traed bach yn rhydd, Dach chi’n amlwg ar ben eich digon – Ond be ‘dach chi’n wneud drwy’r dydd? ‘Weli di’r cae acw’n llawn moron? Fe awn yno o dro i dro, A bwyta a bwyta a bwyta Mae’r hen ffarmwr yn mynd o’i go! A weli di’r cae acw’n fan’cw, Yn letus o wal i wal? Mi futan ni rheiny i gyd hefyd Cyn dianc rhag i’r ffarmwr ein dal. Ac yn y cae acw mae ’na fwnis, Y rhai dela’ a welis di erioed. Dan ni’n mynd i’w cyfarfod nhw ’fory, i jympio yng nghysgod y coed. Bu Wil yn mwynhau am rhai oriau Cyn dweud bod ei amser ar ben. ‘Mae’n rhaid i mi droi ar fy union, Yn ôl at fy nghyfaill côt wen’. ‘ Mynd yn ôl i dy gaets yn y lab 'na? Rwyt ti’n siarad, yn wir, drwy dy het!’ ‘Na. Mae’n rhaid i mi fynd nôl i’r Labordy – Dwi jest a marw isio sigarét. 8.5
Programme Website