ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

BEIRDD MYRDDIN: Cân ysgafn 'Y Gymanfa'

Y Talwrn

Available for over a year

‘Rôl gaeaf o Rihyrsals, o’r diwedd gwawriodd ddydd roes gyfle i bechadur o’i faglau dorri’n rhydd. Er nad oedd pawb yn sanctaidd, gorfoledd oedd gerllaw, a seddau gorau Seion yn llanw’n ‘mhell cyn naw. ‘Roedd rhai am dynnu sylw mewn het a pherlau drud, arddangos bywyd moethus, yn llawn o bethau’r byd. Bu moli’r “Galaleia’”, ond dim ond un neu ddwy a wyddai’r dôn Bodlondeb, a’r lleill ddilynodd hwy. Arweinydd lletchwith gafwyd, gor-hoff o’i seithfed ne’, a thorrodd bedwar baton yn shils cyn amser te. Fe bigodd ar yr altos, fe bigodd ar y bâs, difyriodd y sopranos, ”Mae’ch lleisiau’n braidd yn gras!” “A chithau y tenoriaid, ‘rôl forte mae ‘na strac!” “Daliwch mas a’i chwyddwch, mae’n swnio'n lot rhy slac!” Cyn hir fe ddaeth yr anthem, ac ynddi cafwyd trem ar Babilon a’i ddyfroedd fel canodd Boney M. Fe aeth â ni i Hamburg, i Builth a’r Efail-wen, i Dusseldorf a’r Berwyn, Bro Aber a Thre-wen. ‘Rôl arwain ein heneidiau, ‘roedd calon pawb yn lân, ond mynnwn dawel orffwys cyn eto godi’r gân. Meirion Jones 9

Programme Website
More episodes