ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

CRANNOG: Cân ysgafn 'Y Gymanfa'

Y Talwrn

Available for over a year

Un diwrnod gath Noa y neges, i adeiladu arch. Fe ddaeth ar yr hotline o’r nefoedd felly rhaid oedd dangos cryn barch. “Dos i gasglu pob anifail, o’r Jiraff i lygoden y maes, Rho nhw ‘gyd yn y bâd ar orchymyn dy Dad Ond paid, er mwyn Diawl mynd â Sais!” “Daw wthnos o law trwm a stormydd, gorchuddier y ddaear gan fôr Ac yna daw’r heulwen i wenu”. Ebe Noa “Dim problem, Fy Iôr!” “Felly beth gawn ni neud am wthnos?” holodd yr Eliffant mawr “Beth am greu côr?” medde’r mwnci, “Cael c’manfa bob nôs tan y wawr!” Fe ddechreuon nhw ganu ar unwaith, - mas o diwn a phoenus o slow Amhersain i’r glust ac undonog – fel nhw’n Twicyrs yn canu “Swing Low...” Y mwya ‘ronw’n canu, yn drymach d’ath y glaw ‘Rol deugain diwrnod, medde Duw “Mae’n amser galw Taw!” Anfonodd golomen a nodyn, yn dweud “Dewch a’r canu i ben!!” Fe dawodd y côr, fe laciodd y glaw, a sibrydodd ‘rhen Noa “Amen!!” Hen hanes digon ‘smala, a’r rheswm hyd at heddi Pam sdim cymanfa i’w glywed mewn zoo, Ac ni chlywir ‘r un anifail yn canu ...... Dewi Pws Morris 8.5

Programme Website
More episodes