ѿý

Use ѿý.com or the new ѿý App to listen to ѿý podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

ABERHAFREN: Cân ysgafn 'Siopa dillad'

Y Talwrn

Available for over a year

Am reswm wna’i byth ddallt yn iawn, mi gefais i pwy ddydd y job o fynd ag Anti Dee i siopa yng Nghaerdydd. “So what?” mi’ch clywaf chithau’n dweud, ond wedyn triwch chi ddweud hynny ar ôl awr neu ddwy yng nghwmni Anti Dee. Ac felly, lawr i’r dre â ni, myfinnau’n actio’r gwas: trwy flowsus a thrwy shŵs a sgerts, mi aeth hi mewn a mas, a cherdded wnâi yn ôl a mlaen (fel rhywun angen bog) wrth agor pob rhyw gyrten a throi ataf ym mhob ffrog cyn gwneud rhyw dwyrls fel tasai ar y catwalk ym Mharis; yr hen golomen wirion, dyna oll feddyliwn i. Fel hyn y bu am hydoedd: trio gwasgod, trio bra (pan welais ei mynyddoedd, y mae’n wir, ebychais “Na!”). Mewn tipyn, daeth i stop a dweud – roedd hyn ar ôl pump awr – “Na ni di trio popeth, awn ni nôl i’w prynu nawr”. Y fi wrth gwrs yn bortar: ar bob braich roedd pedair sach, a saith ar fy nwy ysgwydd – ro’n i’n gwywo’n ara bach. O’r diwedd, troi am adre a ffarwelio – am ryddhad – mi glywyd fy ochenaid i mewn cae ym mhen draw’r wlad. Ond wedyn y drychineb: heddiw’r bore daeth phone call. Mae’n galw’r wythnos nesa er mwyn mynd â’r cyfan nôl. 9.5

Programme Website
More episodes