ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,2 mins

Pleidleisio gan Karen Owen

Bore Cothi

Available for over a year

PLEIDLEISIO (ar ddewis Gwyn Thomas yn 'Hoff Fardd Cymru' gan wrandawyr Radio Cymru, ar Fai 1, 2014 - mis ymgyrchu etholiadau Ewrop) Aeth holi cyn etholiad a dweud y lein hyd y wlad yn siwr yn drech o siarad; Rhoi i farn ragfarn yr awr, i gynfas ego enfawr a'r piniwn mwy i'r pen mawr; Rhoi i fôt ei geirfa hael, cred eithaf (ond diafael) i giw gwadwyr ei gadael; Rhoi ein meic dan drwyn y mud a'u hofer barabl hefyd, eu haddo am byth yn ddim byd; Am hynny'n awr, mae'n Mai ni yn waelach gan yr holi a'i balot heb gyboli; Ni'r halen ar arolwg drwy hyn, am fod dynion drwg ddoe'n gelwydd yn ein golwg. * * * A heddiw, holl lenyddiaeth ein hoes ni yn 'lecsiwn aeth! Am mai rhaid y Gymru hon yw rhoi'r dydd i'w phrydyddion; dewis un o'r dwsinau yn arwr iaith i barhau - arwr fydd byth yn marw na rhifo llwch, ar fy llw. Ac enw'n tad yw Gwyn Tom, ei dân yw'r Celtiaid ynom, Duw yr oesoedd sydd drosom a'r Mabinogi rhagom, ein gwlad, ei siarad a'i siom; pob croesi traeth a wnaethom, a'r wên sy'n gwefru ohonom. Naddodd, ar sgrin, lunyddiaeth o fynydd du canu caeth; a chwilio am drychiolaeth, tragwyddol ysbrydoliaeth, y rhyddid mewn seryddiaeth; yr hyn a ddaw a'r nawdd a aeth, marw, amau a hiraeth. I gred, i weithred Athro, y mae 'na ran i Monroe, ac i gowbois mae gobaith heno'n salwns eu hail iaith, a thrwy Gymro'r bocsio bydd awen yn taro'n newydd; Gwyn hýn nag egni'i henoed heddiw yw Gwyn yn ddeg oed. Bob lein o law y Blaenau, y molawd o'i chymylau a'r ias o Dan-y-grisiau; rhin cân o awyr yn cau a'r llechen sy'n ei enau, yn domen ar ddalennau y gwr, ein craig o eiriau. Yn oesol, bydd etholiad yn galw i le senedd gwlad; ond unwaith y daw dynion i ddewis a ddaw i'w swydd hon. Karen Owen Bore Cothi, Mai 9, 2014

Programme Website
More episodes