Episode details

Available for over a year
Esboniad: Phillumenist neu ffiliwmenydd yw person sy’n casglu blychau matsys. Yr oedd ffin rhwng eiliadau, a berw’r oriau mân Yn annog cwsg i gilio, pan alwodd rhywun....TÂN!! Roedd Huw, y ffiliwmenydd di tanio’n rwbio’i gefn, Ei drôns a’i ‘vest-a’n wenfflam, a phanig yn lle trefn. Fe alwyd ar y fyddin a’r gwasanaethau brys, Ond ymatebwr cyntaf ddaeth yno’n lafar chwys. Fe wthiai hi drol ffrwythau, llysiau a da-da, A llusgai oergell ar ei hôl i gario hufen ia. Merch o rywogaeth rymus oedd Margiad pump y dydd, A honnir iddi unwaith ddiffodd ryw dân trwy ffydd! Roedd Huw ar hyn yn wenfflam – ar fynd i weld ei dduw, Pan drochwyd ef mewn hufen iâ, a lot o ffabs bob lliw! Ond Margiad fu’n esgeulus! Wrth loli Ffab mae coes Sydd, o’i chael mewn llygad, yn gallu peri loes! Ond welai Huw ‘run brycheuyn yn llygad ei hoff fun Ac yntau â choes loli yn ei lygad ef ei hun! Bellach, y ddau sy’n briod, a fflam eu serch ynghyn, Gobaith sydd am eni ffiliwmenydd bach ar hyn. Ac er fod Huw’n wahanol, er bod eu tŷ fel lab, Hyd heddiw honna Margiad fod ganddo lygad FFAB!! 9
Programme Website