Episode details

Available for over a year
Rhoi’r biniau sbwriel allan ar nos Lun Rhoi’r dillad budur yn y bocs mawr pîn Trwsio olwyn fflat y beic a’i bwmpio Trwsio tedi a phedal y piano Gwneud wy ar dost a yogurt i bwdin Creu rhestr , siopa a’u cadw nhw wedyn Mynd i wylio’r mab yn chwarae rygbi Mynd i’r Steddfod Sir, wedyn cael ein siomi Torri coed, palu’r ardd a phaentio’r shed Gwneud swper tra’n gwrando’r ymarfer corned Darllen papur, cael paned a hwfro Darllen gwaith cartref, cael paned tra’n smwddio Hanci-a-Panci Doctors a Nyrsus Cur Pen, Cur Pen, Cur Pen, Cur Pen, a Chur Pen Trefnu ‘efo’r garej i’r ceir gael M.O.T. Trefnu’r Dolig a’r gwyliau -! Cant o bwyntiau i mi ! “Pwyntiau ? “ meddai’r gwr “ Am be’ wyt ti’n gyboli ?” “Wel y pwyntiau’n ‘de – y rhai dwi’ di bod yn cyfri - A sgen ti ddim digon i fynd allan nos Sadwrn - Ond dwi ‘di hel digon i fynd draw i’r Talwrn! Mair Tomos Ifans 9
Programme Website