ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

HIRAETHOG: Telyneg neu soned 'Cae'

Y Talwrn

Available for over a year

Cae – Theatr Breuddwydion Y bêl yn sownd i’w draed wrth ddriblo’n chwim drwy goesau hurt y lleill cyn saethu’i gôl, mae’r bychan fel ei rieni’n deall i’r dim fod ganddo’r ddawn a’i ceidw o’r ciw dôl. Wrth estyn y bêl eto o gefn y rhwyd, mae’r bychan boldew wedi sori’n bwt ac yn dyheu am alwad mam at fwyd i’w arbed rhag y dirmyg yn y cwt. Tu ôl y gôl yn pwyso ar ei ffyn, heb gicio pêl erioed â’i goesau cam, mae’r bychan eiddil eto’n gwylio’n syn at gamp y ddau cyn adrodd wrth ei fam..... a deigryn honno’n cofio fel erioed fod mwy rhwng camp a champ yn ddeuddeg oed. Eifion Lloyd Jones 9.5

Programme Website
More episodes