Episode details

Radio Cymru,1 min
Series 2014
Y FFORDDOLION: Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Esgusodion
Y TalwrnAvailable for over a year
(cân y cyfreithiwr) O'r holl greaduriaid sy'n y tir nid oes rhyfeddach i'w gael na dyn: mae ganddo'r ddawn i stumio'r gwir a’i droi i'w bwrpas ef ei hun. Mor aml y’i gwelais, o flaen ei well, ’da golwg ddiniwed mewn siwt a thei yn dweud mai arall sy'n haeddu cell gan honni'n gwrtais nad oedd ar fai. "Fe gerddodd i'm dwrn", "Nid fi piau'r coke" "Fe'i ffeindiais ar lawr", " 'Dw i'n dweud y gwir"; "'Rwy'n hollol ddiniwed", "Mae hyn yn jôc", "Wn i ddim sut y daeth y madarch i'm tir". Ac 'rwy'n poeni'n aml pan ddaw dydd o bwyso ger Y Barnwr Mawr sydd yn cofio'r cyfan beth fydd 'na i'w ddweud er mwyn ei ddarbwyllo nad oes reswm i'w gael am eu cadw allan. Wedi oes o bledio rhag eu cymeryd i mewn, bydd pledio mynediad yn dasg go ewn.   Dafydd Williams 8
Programme Website