Episode details

Available for over a year
Tŷ (Yr Ysgwrn) Os tyner yw’r lleuad heno, nid llai, nid llai yw brifo nosau swil hen noswylio; fe aeth blynyddoedd yn yfflon, ond ym mwsog y galon y mae hiraeth ym Meirion; hiraeth yw hwnnw o’r newydd yn y gwawrio tragywydd, yn y maen hwnt i’r mynydd; ond ym Meirion mae inni’r muriau: tŷ diriaethol i’r dagrau a gwaed oer hen gadeiriau. Dafydd John Pritchard 9.5
Programme Website