Episode details

Radio Cymru,1 min
Series 2014
CRANNOG: Cân (heb fod dros 20 llinell) ar y mesur tri thrawiad: Brawd Mogi yw Tagu
Y TalwrnAvailable for over a year
Ers amser Alf Ramsey rhyw arthwyr fu wrthi O Wembley i Wembley yn rhegi’n un rhes, Daeth Taylor a Telly, McLarren a’i frolly, Ond colli, er hynny, fu’r hanes. Ni welir Capello a’i natur byth eto, Na Keegan yn cogio o gwmpas y ca’, A gadael ei wingers wnaeth Sven yn ddi-fanners Â’i drainers yn knickers Ulrika. I asio y Saeson â goliau y galon Mae angen rhyw Robson neu Hodgson o hyd I danio eu dynion, i wthio’r gobeithion I safon ‘r atgofion a gyfyd. A heddiw, er gweiddi na allan’ nhw golli, Fe erys yfory i’w siomi, bid siwr, A’r wasg fydd yn gwasgu ŷnt eto fynd ati I benodi rhyw Wali’n rheolwr. Yn Rio bydd truan yn arfog ei garfan Eleni’n ei ffwdan ger cwpan y co’. Rhesymaf mai symol fydd ‘hot-bed’ y ffwtbol Heb ganmol byth bythol – gobeithio. Dai Jones 9
Programme Website