Episode details

Available for over a year
I Gofio Maya Angelou Â’r ddawns yn nhristwch mawr ei gwên A wasgai’r haul trwy ddagrau hanes Yn codi pont ag enfys llên. Â’r ddawns yn nhristwch mawr ei gwên Yn cadw curiad cân yr hen Gadwyni fethodd ddal y dduwies Â’r ddawns yn nhristwch mawr ei gwên A wasgai’r haul trwy ddagrau hanes. Rocet Arwel Jones (Iwan Bryn James yn darllen) 9
Programme Website