Episode details

Available for over a year
Crataegus a Spinosa ( Y Dddraenen Wen a’r Ddraenen Ddu ) Ym Mai, yn feinwen fain, Yn Olwen ar fy llwybr llaethog , A’m coron wen yn chwerthin melys Yn dawnsio ‘mysg rhubanau, A phetalau’n fflyrtian efo’r awel ; Gwên gan wefus feddal Dan barasol Crataegus A brath y pigau’n goglais goglais fy mron. Yn Nhachwedd, chwerw, llwm, MorrÃgan o’r neilltu, yn alltud, A’m ffrwythau du yn wingo sur, Yn ferddwr ‘mysg cysgodion A deiliach sydd yn chwythu yn chwithig; Gwawd gan dafod filain Dan gwman y Spinosa A brath y pigau’ n gwanu gwanu fy mron. Mair Tomos Ifans 9.5
Programme Website