ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,11 mins

Cân gyfoes o’r oes o’r blaen ar y radio

Bore Cothi

Available for over a year

Myrddin ap Dafydd yn sgwrsio ar raglen Bore Cothi ac yn darllen cerdd. "Dwi wedi bod yn gweithio ar gerdd am ganeuon dwi’n eu clywed ar y radio. Yn arbennig y caneuon roedd Richard Rees yn eu chwarae fore ddoe. Caneuon cyfoes o’r oes o’r blaen ydi rhai ohonyn nhw – clasuron gan Endaf Emlyn, Dewi Pws, Ems ac ati. Caneuon newydd gan fandiau newydd ydi gweddill y rhagen – Al Lewis, Alun Tan Lan a Lowri Evans ac ati. Mae’r rhaglen hon yn fwy na’r un yn dangos bod caneuon radio yn gyfeiliant i ddegawdau o’n bywydau ni! Mae’n dangos fod na draddodiad sydd ddim yn darfod, ac yn dal i dyfu." Felly dyma gerdd am y caneuon hynny. Cân gyfoes o’r oes o’r blaen ar y radio Mae’r botwm wedi’i bwyso; ni ddaw’n ôl Y gân, y galon honno, dyddiau iau – Ond dal i’w clywed mae’r tonfeddi ffôl. Y tynnu sylw, yna’r tynnu stôl A’r alaw’n jeifio rhwng canhwyllau dau: Mae’r botwm wedi’i bwyso; ni ddaw’n ôl. Ar ôl yr wˆyl, cariadon roc a rôl A welodd bandiau’n gadael, giatiau’n cau – Ond dal i’w clywed mae’r tonfeddi ffôl. A phwy sy’n dal i gofio’r Hen Down Hôl? Yr eiliad ddofn, ac amser yn dyfnhau? Mae’r botwm wedi’i bwyso; ni ddaw’n ôl. Blynyddoedd doeth sy’n datod edau’r siôl O nodau, ac mae’i llun a’i lliw’n pellhau; Ond dal i’w clywed mae’r tonfeddi ffôl. Rhaid imi ollwng hyn i gyd o ’nghôl, Mae’r traciau’n pylu ac mae’r tâp mor frau; Mae’r botwm wedi’i bwyso; ni ddaw’n ôl. Ond dal i’w clywed mae’r tonfeddi ffôl.

Programme Website
More episodes