Episode details

Available for over a year
Colli’r paith a cholli’r pampas, Colli cwpan mewn galanas Colli crysau tyn Adidas Ac yn eu lle cael brafiach bras. Colli iws technoleg goal-line, Colli’r jôc a cholli’r punchline, Colli clywed drwy y grêpfain, A cholli ffydd yn nymbar nain. Colli Corrie, colli Brookside, Colli gêm mewn heulwen tanbaid, Colli goliau Norman Whiteside Ac yn eu lle cael taclau taid. Colli’r wlad a cholli limpin, Colli’r Eidal ac Ariannin, Colli rheolwr mewn cot sheepskin, Ar tîm i gyd yn dda i ddim. Dod yn ôl i’n hymerodraeth, Gwyliau hir, mwynhau y nightlife, Dim yn newid, dim gwahaniaeth, A Lloegr ’nôl ar draeth anobaith. Geraint Lovgreen 9.5
Programme Website