ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Series 2014

CAERNARFON: Telyneg ar fydr ac odl - Iard

Y Talwrn

Available for over a year

'Sut mae'r hen le?' gofynna 'Nhad o'i gornel yn ddi-ffrwt. Be fedra'i ddweud? 'Mae'n dawel' ? 'Mae pob man lot rhy dwt' ? 'Sdim ci teiars yn sgrialu'n gadwyn gyfarth o'i gwt'? Sut fedra'i ddweud fod y ddraenen wen bellach wedi'i diwreiddio? Fod iard ei hen gynefin gynt wedi'i sybyrbaneiddio? Llwyni estron amdani'n llen a heli'r môr yn eu deifio... Daw'r un hen gwestiwn fory, fel rhedeg bys 'hyd craith; daw'r cwestiwn fory a thrennydd; dyma gerrig milltir y daith i ddyn wnaeth symud heb adael, sydd byth wedi cyrraedd chwaith. Ifor ap Glyn 9.5

Programme Website
More episodes