Episode details

Available for over a year
Y llwch o’r derw a’r iroko pan aent trwy’r llif, Y tuniau paent, rhai’n hanner gwag rhai’n hanner llawn, Ysgerbwd rhyw hen gwch, y seiri wrth y fainc A thrugareddau na wn be ynt yn iawn. Y bachgen swil a distaw pymtheg oed Mwg baco, gwymon, naddion coed a llaid, Sŵn weiars ar y mestus yn y gwynt Y dyddiau difyr, bywyd braf di baid. Fe lifodd ffilm o luniau clir trwy’r cof A chyffwrdd fy synhwyrau fel hen win A’r blwch a ddaliai swyn yr oes a fu Oedd pwced byti blastig, â’i had llin. Huw Erith 9
Programme Website